
Deall Anghenion Gwasanaeth Goroeswyr Trais Rhywiol LHDTC+ yng Nghymru
Ydych chi’n berson LHDTC+, sydd dros 18 oed, ac wedi profi trais rhywiol?
Hoffech chi ein helpu i ddeall y rhwystrau y mae pobl LGBTQ+ yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau cymorth trais rhywiol?
PARTNERIAID YMCHWIL




Ynglŷn â’r Ymchwil
Fe wnaethom ni gynnal prosiect ymchwil o fis Hydref 2023 i fis Mawrth 2025 i ddeall yn well y rhwystrau mae pobl LHDTC+yn eu hwynebu wrth gyrchu gwasanaethau cefnogi trais rhywiol. Rydym ni am wybod sut y gall gwasanaethau gael eu haddasu neu eu datblygu i ddiwallu anghenion pobl LHDTC+ sydd wedi profi trais rhywiol.
Roedd y prosiect yn cynnwys arolwg ar-lein, a chyfweliadau ansoddol a grwpiau ffocws.
Gallwch ddarllen ein Canfyddiadau Allweddol ac Argymhellion, yn ogystal â rhagor o wybodaeth am y fethodoleg ymchwil, yn y ddogfen isod.
Gweminarau
Ym mis Mawrth 2025, fe wnaethom gyflwyno cyfres o weminarau ar ganfyddiadau’r ymchwil, gyda’r nod o roi dealltwriaeth i fynychwyr o’r rhwystrau mae pobl LHDTC+ yn eu hwynebu wrth gyrchu gwasanaethau trais rhywiol, a’r gallu i ddisgrifio’r hyn y gallent ei wneud i wella hygyrchedd eu gwasanaeth i bobl LHDTC+.
Gallwch wylio recordiad o un o’r gweminarau hyn isod:

Yr Arolwg
Fe wnaeth yr arolwg ofyn i ymatebwyr ddweud wrthym ni am eu barn am y gwasanaethau cymorth y gwnaethon nhw eu cyrchu yn dilyn profiadau o drais rhywiol, neu am yr hyn wnaeth eu rhwystro rhag cael mynediad atynt. Roedd yn cymryd rhwng 10-25 munud i’w gwblhau, yn dibynnu ar sut y dewisodd ymatebwyr ateb.
Roedd yr arolwg yn ddienw, ac unrhyw nodweddion adnabod yn cael eu tynnu allan.


Y Cyfweliadau
The interviews asked participants to tell us about their experiences of accessing support for sexual violence that happened to them, in more detail. They lasted for between 45 minutes to an hour and were conducted online and over the phone.
Survey respondents were invited to register their interest in taking part in an interview, at the end of the survey.
All interview participants received a £25 voucher, in recognition of their time.
Y Grwpiau Ffocws
Gofynnodd y grwpiau ffocws yn yr un modd i gyfranogwyr ddweud wrthym ni am eu profiadau o gyrchu cefnogaeth ar gyfer trais rhywiol oedd wedi digwydd iddyn nhw, yn fanylach.
Gwahoddwyd ymatebwyr yr arolwg i gofrestru eu diddordeb mewn cymryd rhan mewn grŵp ffocws, ar ddiwedd yr arolwg.

CEFNOGAETH I GYFRANOGWYR PROSIECT
Cael Cymorth gan y Partneriaid Ymchwil
We know it can be really challenging to talk about experiences of sexual violence. Although participants were not asked to share details of any specific incident, or anything they didn’t want to, we knew it was possible that they might this hard. As such, participants were invited to refer themselves into, or contact any of the project partners at any point for support. Although project specific support, has now come to an end – you can still contact any of the project partners for support. You can find information about how to do so below.

Cymorth Arbenigol Trais Rhywiol ledled Cymru
New Pathways yw’r darparwr cymorth trais rhywiol mwyaf yng Nghymru. Rydym ni’n darparu ystod o wasanaethau arbenigol argyfwng, eiriolaeth, lles a chwnsela i oedolion a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan drais rhywiol.
Gallwch ddarllen mwy am y gwasanaethau rydym ni’n eu darparu, a gwneud atgyfeiriad ar ein gwefan.

Cymorth Arbenigol LHDTC+ ledled Cymru
Mae Umbrella Cymru yn gweithio i hyrwyddo amrywiaeth rhywiol a rhywedd, cydraddoldeb a chynhwysiant ledled Cymru. Rydym ni’n cynnig ystod o wasanaethau cymorth arbenigol a hyblyg i bobl LHDTC+, eu teuluoedd, ysgolion a chymunedau.
Gallwch ddarllen mwy am y gwasanaethau rydym ni’n eu darparu, a gwneud atgyfeiriad ar ein gwefan.

Cefnogaeth i Oedolion sy’n Goroesi Cam-drin Plant yn Rhywiol yng Ngogledd Cymru
www.steppingstonesnorthwales.co.uk
Mae Stepping Stones Gogledd Cymru yn darparu cwnsela unigol, cymorth, cyrsiau seicoaddysgol, ac adnoddau rhad ac am ddim yn ogystal â gwaith grŵp i oedolion sy’n goroesi cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod. Rydym ni hefyd yn cefnogi aelodau o’r teulu, gofalwyr a ffrindiau.
Gallwch ddarllen mwy am y gwasanaethau rydym ni’n eu darparu, a gwneud atgyfeiriad ar ein gwefan.
CEFNOGAETH I GYFRANOGWYR PROSIECT
Llinellau Cymorth Trais Rhywiol/ Cymorth LHDTC+ Eraill
Isod mae rhai sefydliadau ac adnoddau eraill allai fod o gymorth i chi!
SURVIVORS UK
Mae Survivors UK yn darparu llinell gymorth genedlaethol, cwnsela unigol a grŵp i fechgyn, dynion a phobl nad ydynt yn ddeuaidd 13+ oed sydd wedi profi trais rhywiol ar unrhyw adeg yn eu bywydau.
Mae’r Llinell Gymorth ar gael fel sgwrs we neu drwy anfon neges destun. Ar agor Llun-Sul 12pm-8pm.
Neges testun: 02033221860
GALOP
GALOP yw elusen gwrth-gam-drin LHDT+ y DU, sy’n arbenigo mewn cefnogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig, trais rhywiol, troseddau casineb, cam-drin ar sail anrhydedd, priodas dan orfod, therapïau trosi fel maen nhw’n cael eu galw a cham-drin rhyngbersonol.
Mae’r Llinell Gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau, 10am tan 8:30pm; a dydd Gwener 10am i 4:30 PM.
Ffôn: 08009995428
Mae’r Llinell Gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau, 10am tan 8:30pm; a dydd Gwener 10am i 4:30 PM.
Tel: 08009995428
LLINELL GYMORTH SWITCHBOARD LGBT+
Switchboard UK yw’r llinell gymorth genedlaethol LHDTCIA+. I unrhyw un, unrhyw le yn y wlad, drafod unrhyw beth sy’n gysylltiedig â rhywioldeb a hunaniaeth rhyw.
Mae eu llinell gymorth yn hollol rhad ac am ddim, ac ar gael lle bynnag rydych chi’n teimlo’n fwyaf cyfforddus — boed hynny ar y ffôn (08000119100) trwy sgwrsIO (switchboard.lgbt) neu e-bost (hello@switchboard.lgbt)
LLINELL GYMORTH LHDT+ CYMRU
Mae Llinell Gymorth LHDT+ Cymru yn darparu gwybodaeth gyffredinol, cyngor a chymorth cyfrinachol mewn sawl maes o fywyd a materion amrywiol y gall pobl LHDT+, eu teulu a’u ffrindiau eu profi.
Mae’r llinell gymorth yn darparu cwnsela a seicotherapi i oedolion, plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n rhan o’r gymuned LHDT+ yng Nghymru ac yn gysylltiedig â hi, wyneb yn wyneb yn Abertawe ac ar-lein/dros y ffôn.
Ar hyn o bryd, mae Llinell Gymorth LHDT+ Cymru yn codi ffi o £35 y sesiwn.
Ffôn: 01792 316137
E-bost: Sam@LGBTCymru.org.uk
LLINELL GYMORTH BYW HEB OFN
Mae Byw Heb Gymorth yn darparu cymorth a chyngor am drais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Os ydych chi, aelod o’r teulu, ffrind, neu rywun rydych chi’n pryderu amdano, wedi profi trais rhywiol gallwch gysylltu â’r llinell gymorth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i gael cyngor a chymorth am ddim neu i siarad trwy eich opsiynau.
Ffôn: 0808 80 10 800
Neges testun: 07860077333
E-bost: info@livefearfreehelpline.wales
Sgwrs Fyw ar-lein: ar y wefan
LLINELL GYMORTH IECHYD MEDDWL C.A.L.L CYMRU
Mae Llinell Gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L Cymru yn darparu cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru.
Gall unrhyw un sy’n pryderu am ei iechyd meddwl ei hun neu iechyd perthynas neu ffrind fanteisio ar y gwasanaeth.
Mae eu llinell gymorth ar agor, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Ffôn: 0800 132 737
Anfonwch neges testun ‘Help’ i: 81066
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y prosiect ymchwil hwn, cysylltwch â: enquiries@newpathways.org.uk
NODER:
Hoffai’r Partneriaid hefyd gydnabod cyngor a chefnogaeth amhrisiadwy ein Grŵp Cynghori a’n Grŵp Llywio sydd wedi helpu i lunio’r prosiect o’r dechrau i’r diwedd.